Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 2025
10:30 am - 1:00 pm

Ar gyfer oedolion 16+ oed
Ymunwch â’n gweithdai celf hygyrch i oedolion ar ddydd Sadwrn olaf bob mis.
Cyflwynir technegau, syniadau a deunyddiau bob mis sy’n seiliedig ar ein rhaglen o arddangosfeydd.
Torri allan
Gan ymateb i arddangosfa Hayward Gallery Touring, Linder, Danger Came Smiling, cewch gyfle i greu collage cyfoes gan ddefnyddio delweddau a gymerwyd o ffynonellau ar-lein, adnoddau o gasgliad yr oriel a hen gylchgronau, sy’n archwilio hunaniaeth a stereoteipiau rhywedd.
Wth archwilio’r gwaith a ddangosir yn y sioe, byddwch yn dysgu am waith arloesol Linder a gofnododd drobwynt yn niwylliant Prydain yn ystod uchafbwynt cyfnod Pync y 1970au.
Tocynnau £5
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Darperir yr holl ddeunydd. Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau

