Dydd Mercher 29 Hydref 2025
10:30 am - 12:30 pm
Crëwch eich platiau stori anferth rhyfeddol eich hun yn y gweithdy i deuluoedd hwn i bobl o bob oedran.
Yn ein harddangosfa Teigrod a Dreigiau, mae Adeela Sulema yn defnyddio hen waith cerameg i adrodd hanes llai cyffredin am y Prydeinwyr yn India, felly rydyn ni’n mynd i greu ein platiau ein hunain sy’n sôn am ein diddordebau, ein treftadaeth a’n straeon – rhai go iawn a dychmygol!
Dyluniwch, paentiwch, crëwch ludwaith, cerfluniwch a throwch eich syniadau’n blât realistig hyfryd, sy’n addas ar gyfer unrhyw ddreser Gymreig!
Mae’r gweithdy hwn yn rhan o’n prosiect parhaus Straeon Abertawe. Mae gan yr oriel gasgliad o dros 11,000 o gelfweithiau – adroddwch eich straeon a sicrhewch fod y casgliad yn ddiddorol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol!
Gwybodaeth bwysig: Mae gennym le tawel i deuluoedd a phlant ag anghenion synhwyraidd. Os yw’r gweithdy prysur yn peri gofid i chi neu eich plentyn, siaradwch â’r staff ar y diwrnod neu e-bostiwch Richard.Monahan@abertawe.gov.uk cyn y gweithdy am ragor o wybodaeth.
£3.00 y plentyn
Rhaid cadw lle
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau