Dydd Mercher 14 Medi 2022
6:30 pm - 7:30 pm
Gydag Indy Johar, pensaer a chyd-sylfaenydd Dark Matter Labs, y pensaer Robin Campbell a’r artist Owen Griffiths
Tirweddau Dinesig Gan barhau â’r themâu a archwiliwyd yn y drafodaeth banel flaenorol, bydd y pensaer a chyd-sylfaenydd Dark Matter Labs, Indy Johar, a’r pensaer Robin Campbell, yn ymuno â Griffiths i archwilio syniadau ynghylch cyfalafu mannau dinesig a chyhoeddus.
Drwy’r sgwrs hon, byddant yn ystyried sut y gallwn ddeall y newidiadau sy’n digwydd yn ein hamgylcheddau trefol yn well, a sut y gallwn gymryd rhan a dylanwadu ar y prosesau hyn sy’n aml yn gymhleth.
Mae Meddwl yn Wyrdd yn darlunio peth o ddatblygiad dinas Abertawe ar ôl y rhyfel, gan gynnwys symud ac ailgyflwyno lleoedd gwyrdd yn barhaus, a bydd y siaradwyr yn ystyried sut y gallai gerddi, fel gardd Oriel Gelf Glynn Vivian, fod yn ffordd i gymunedau ymgysylltu â chynllunio trefol mewn modd mwy ystyrlon.
Am ddim. Rhaid cadw lle.
Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein trwy Zoom. Dilynwch y ddolen hon i gofrestru: https://us06web.zoom.us/meeting/register/tZctfu2trD0oH9TVZ6Mvz6pZmr5JP_nXF8l0
Indy Johar – Dark Matter Labs
Mae Indy’n bensaer drwy hyfforddiant ac yn wneuthurwr o ran arfer, mae’n Uwch-aelod Cyswllt Arloesedd gyda’r Young Foundation.
Ef, ymysg sefydliadau eraill, sefydlodd Impact Hub Birmingham ac Open Systems Lab, ac roedd yn aelod o Inclusive Growth Commission y Gymdeithas Frenhinol er hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach ac yn ymgynghorydd twf da i Faer Llundain.
Mae’n ymarferydd archwiliol o ran newid systemau a dyluniad mater tywyll cyllid isadeiledd, canlyniadau, a llywodraethu dinesig. Mae Indy’n Gyfarwyddwr 00 a Dark Matter Laboratories.
Robin Campbell
Mae Robin Campbell yn bensaer sy’n gweithio yn Abertawe ac ef gychwynnodd y cynllun “canran ar gyfer celf” cyntaf yng Nghymru ac a sefydlodd Air Architechture.
Mae Air wedi ennill sawl comisiwn a chystadleuaeth adeiladu, gan gynnwys Canolfan yr Amgylchedd Abertawe ac yn ddiweddar, cwblhaodd Ganolfan Gymunedol Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda Helen Flynn.
Heblaw am adeiladau newydd, mae Air wedi bod yn datblygu syniadau a phrosiectau’n seiliedig ar ailbwrpasu a phrosiectau adnewyddu dyfeisgar yn Abertawe, Fife a Bannau Brycheiniog.
Mae gwaith Robin wedi cael ei gyhoeddi yn The Furnished Landscape (cwmni cyhoeddi Bellew publishing ar gyfer Crafts Council, Llundain), Architects Journal, FX, a Design Week. Mae wedi arddangos ei waith yn Making Buildings (The New Gallery Walsall, Crafts Council Gallery Llundain, Turnpike Gallery, Manceinion, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth).
Mae Air Architecture wedi derbyn gwobr Green Apple a Gwobr y Defnydd Gorau o Le (Gwobr Ddylunio Ryngwladol LEAF). Comisiynwyd Robin gan Oriel Gelf Glynn Vivian i guradu
The Wind that Blows me is called Light, (Gweithwyr gwydr cyfoes sy’n gweithio ym maes pensaernïaeth).
Categorïau