Dydd Sul 12 Hydref 2025
1:00 pm - 1:15 pm
Bydd Nazma Botanica, artist o Abertawe, yn cyflwyno perfformiad celf fyw gan ddefnyddio dulliau paratoi bwydydd diwylliannol traddodiadol (chapatis a phice ar y maen), i alluogi diwylliant Cymru ac Asia i weld y posibiliadau o debygrwydd a chyfnewid rhwng y ddwy ochr. Mae bwyd yn ddefnyddiol fel rhywbeth trosiadol i hwyluso cyfleoedd i ddod â chymunedau ynghyd, ysgogi deialog, chwalu rhwystrau a rhannu profiadau.
Meddai Namza, “Mae’r perfformiad hwn yn ymwneud â mireinio fy hunaniaeth ddiwylliannol bersonol. Cefais fy ngeni yng Nghymru ac mae fy ngwreiddiau yng Nghymru; nid wyf yn digwydd bod yma. Nid wyf yma i hyrwyddo diwylliant Asiaidd. Nid wyf yma ychwaith i hyrwyddo diwylliant Cymru. Rwyf yma i wneud y ddau.”
Mae Nazma Botanica yn artist amlddisgyblaethol. Dychwelodd Nazma i astudio celf pan oedd yn 30 oed, ac enillodd Wobr Myfyriwr Cwrs Mynediad y Flwyddyn cyn ennill Gradd Meistr mewn Deialogau Cyfoes: Celfyddyd Gain. Yn ogystal â defnyddio paent, gludwaith, cerflunwaith ac o bryd i’w gilydd berfformio fel ei chyfrwng, mae Nazma hefyd wedi defnyddio’r gair ysgrifenedig i ddod o hyd i’w llais. Ar hyn o bryd, mae Nazma’n gweithio ym maes lles ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn sut gall natur wella iechyd emosiynol.
Am ddim, galwch heibio. Dim angen archebu
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe a gynhelir ar draws y ddinas o 11 i 12 Hydref 2025. Caiff ei gefnogi gan y prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe a’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau