• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Our Visual World: DeafNot

Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025 //  by laura.gill

Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025 - Dydd Sul 1 Mawrth 2026
10:00 am - 4:00 pm

Clara Newman, Diatoms, 2025

Mae’n bleser gan Oriel Gelf Glynn Vivian gyflwyno Our Visual World: DeafNot, arddangosfa sy’n dod â saith artist byddar o bob rhan o Gymru ynghyd. Mae pob un yn aelod o Our Visual World sy’n cyflwyno gwaith sy’n cydblethu gweithrediaeth, hunaniaeth a hanesion personol.  

Drwy eu gwaith, mae’r artistiaid yn ceisio herio normau cymdeithasol, dathlu hunaniaeth y byddar a chynnig cyfle i gynulleidfaoedd brofi byd drwy lens wahanol – un a lunnir gan iaith weledol, gwydnwch a chreadigrwydd. Mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o greadigrwydd a hefyd yn ddatganiad pwerus o amlygrwydd a chymuned.  

Mae Our Visual World yn gymuned fywiog a chynhwysol sy’n ymroddedig i gefnogi artistiaid gweledol byddar ledled Cymru. Crëwyd y rhwydwaith hwn, a ddeilliodd o’r fenter Cysylltu a Ffynnu – prosiect Cyngor Celfyddydau Cymru a arweiniwyd gan Jane Simpson a GS Artists, yn sgîl awydd i gryfhau lleisiau’r byddar ym myd y celfyddydau gweledol. Mae’n meithrin cydweithio, amlygrwydd a thwf creadigol, gan ddarparu llwyfan lle gall artistiaid byddar gysylltu â’i gilydd, rhannu eu gwaith a chael mynediad at gyfleodd wedi’u teilwra i’w profiadau a’u safbwyntiau unigryw eu hunain. Drwy eiriolaeth, gweithdai ac arddangosfeydd arweinir Our Visual World bellach gan artistiaid byddar ac mae’n parhau i adeiladu tirwedd gelfyddydol fwy hygyrch a chynrychioliadol yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa sydd wedi’i chyd-guradu gyda Caitlin Davies o Gaerdydd, y mae ei hymarfer yn canolbwyntio ar fynediad a chydweithio, yn cynnwys ystod amrywiol o gyfryngau, gan gynnwys gosodweithiau, cerfluniau, paentiadau, printiau a ffotograffiaeth – gan roi cipolwg prin a hanfodol i gynulleidfaoedd ar ddiwylliant a phrofiadau bywyd y byddar. 

Artistiaid sy’n rhan o’r arddangosfa: 

Emily Rose Corby
Artist gweledol byddar o Gymru yw Emily sy’n gweithio gyda chyfryngau cymysg, collage a gosodweithiau. Mae ei gwaith yn archwilio tirwedd emosiynol y profiad o fod yn fyddar. Mae ei hamgylcheddau y gellir ymgolli ynddynt yn adlewyrchu cymhlethdodau cyfathrebu a gorlethu synhwyraidd. Yn 2025, dyfarnwyd Comisiwn Celfyddydau Anabl a/neu Fyddar Celfyddydau Anabledd Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru iddi. 

Kate Evans
Mae gwaith arddull rhaglen ddogfen Kate, ffotograffydd hunanddysgedig ers 2000, yn cyfleu arwyddocâd taith bywyd. Dychwelodd i’w hymarfer yn y blynyddoedd diweddar, ac mae hi bellach yn arbrofi â chyfryngau cymysg i archwilio themâu amser, cof a hunaniaeth. Mae Kate hefyd yn arweinwyr teithiau Iaith Arwyddion Prydain ac yn hwylusydd gweithdai gydag Our Visual World. 

Natasha Hirst
Mae gwaith Natasha yn archwilio themâu colled, cof ac adennill. Gan ddefnyddio llun o’i phlentyndod a throsiad am bioden, mae’n myfyrio ar yr hyn a gymerwyd oddi arni – ei chlyw, ymreolaeth a hygyrchedd. Mae ei llyfr lluniau a’i gosodweithiau barddonol yn rhoi llais i gysgodion ei phrofiadau bywyd, wrth ddathlu gwydnwch a harddwch bywyd byddar. 

Alex Miller
Mae Alex yn creu gweithiau llachar gan ddefnyddio siapiau organig, dyfrlliwiau, tecstilau a sgrin-brintio. Mae ei gelf yn amlygu’r rhwystrau dyddiol a wynebir gan gymunedau’r byddar a lleiafrifoedd, wrth adeiladu pontydd hefyd â chynulleidfaoedd prif ffrwd. Mae teithio ac archwilio diwylliannol yn ganolog i’w ymarfer, gan ysbrydoli cysylltiadau newydd ac adrodd straeon sy’n seiliedig ar decstilau. 

Clara Newman 

Mae Clara yn artist o Lasinfryn, gogledd Cymru. Mae hi’n astudio Crefftau Dylunio Cyfoes ar hyn o bryd yng Ngholeg Celfyddydau Henffordd. Arweinir ei gwaith gan ddeunyddiau ac mae hi’n creu gwaith sy’n ymwneud â themâu symudiad, diatomau a hawliau’r byddar. Mae wedi cyflwyno’i gwaith yn Deaf Gathering Cymru 2024, ar ôl gweithio gyda’r prosiect Hear We Are i greu dwylo tecstilau.  

Melissa Payne 
Ysbrydolir Melissa, artist a chrëwr dwys-fyddar, gan dirweddau arfordirol ei phlentyndod. Gan weithio ar draws enamel, cerameg, gwydr a thecstilau, mae ei darnau haenog, cyffyrddol yn adlewyrchu ei chysylltiad synhwyraidd â’r byd a’i hymdeimlad dwfn o le a pherthyn. 

Heather Williams 
Mae gwaith Heather, artist rhyngddisgyblaethol a chyd-sylfaenydd Deaf Gwdihŵ, yn archwilio profiadau amlweddog bod yn ddefnyddiwr byddar Iaith Arwyddion Prydain ag ADHD. Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys The Radical Joy of Unmasking yn Cardiff Umbrella. Drwy ei chelfyddyd, mae’n cwestiynu etifeddiaeth addysgu’r byddar drwy siarad a gwrando a distewi parhaus iaith arwyddion mewn cymdeithas. 

Mewn partneriaeth â GS Artists ac Our Visual World. 



Categorïau

  • Presennol

Event Category: Presennol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility