• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Cadwraeth
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English

Penwythnos o berfformiadau

Dydd Iau 20 Tachwedd 2025 //  by laura.gill

Dydd Iau 20 Tachwedd 2025 - Dydd Sul 23 Tachwedd 2025
10:30 am - 4:30 pm

Ar y cyd ag arddangosfa Linder: Danger Came Smiling yn Oriel Gelf Glynn Vivian, mae’r artistiaid o Abertawe, Vivian Ross-Smith a Holly Slingsby, yn cyd-guradu penwythnos o berfformiadau byw a fideo yn yr oriel.

SGÔR, Carpet Wrong, 2025. Photo credit: Peter Evans
Trwy garedigrwydd yr artists / Courtesy the artists

Bydd yr arddangosfa’n dechrau ar 20 Tachwedd ac yn rhedeg tan 23 Tachwedd, a bydd y rhaglen yn cynnwys celfweithiau byw gan SGÔR, John Walter, Vivian Ross-Smith, Esyllt Lewis a Holly Slingsby. Bydd lluniau symudol perfformiadol hefyd yn cael eu dangos drwy gydol y penwythnos, gan gynnwys celfweithiau gan artistiaid gwadd a galwad agored.

Artistiaid Fideo: Adele Vye, Aled Simons, Alex Hetherington, Bhebhe a Davies, Jenny Baines, Jessa Mockridge, Rebecca Moss, Sophie Lindsey, Quilla Constance a Zia Torta.

Mae’r rhaglen yn ehangu ar themâu o arddangosfa Linder: Danger Came Smiling gan gynnwys bywyd teuluol, y ffordd rydym yn ymddwyn mewn cymdeithas, y cyfryngau torfol, cyrff, cymeriadau clasurol a phleser.


Dydd Iau 20.11.25, Perfformiadau Byw – Glynn Vivian gyda’r Hywr

5.30pm – 8.00pm

SGÔR

Mae SGÔR yn darganfod sut mae cyrff yn llifo, yn gwrthdaro ac yn symud o fewn gofod a rennir, ac yn parhau i archwilio’r ceryntau anweledig sy’n llunio deinameg gymdeithasol a gofodol. Yn dilyn preswyliad drwy gydol yr haf gyda G39 a Ffotogallery, bydd y grŵp yn troi eu sylw at agor yr oriel fel arbrawf o densiwn ac athreiddedd.

Bydd perfformwyr yn profi sut y gall cyrff anghyfartal ddylanwadu ar dorf brysur drwy sain ac ystumiau. Fel gronynnau sy’n ymddwyn yn annisgwyl mewn man lle mae elfennau diwylliannol yn gwrthdaro, mae SGÔR yn symud ymysg y dorf, gan arsylwi sut mae ystumiau’n lledaenu, sut mae awyrgylchoedd yn newid a sut y gallai ffurfioldeb droi i mewn i chwarae. Mae’r cyfan yn dathlu’r synwyrusrwydd o gyfuno elfennau gwahanol i greu rhywbeth newydd fel dull ar gyfer archwilio a thanseilio syniadau derbyniol am ymddygiadau da.

 

John Walter: Tanuki’s Beaujolais Bar

Gan adeiladu ar ddiddordeb hirsefydlog Walter mewn lletygarwch fel dyfais berthynol ar gyfer ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mewn paentio, mae’n cyflwyno bar newydd ar gyfer Abertawe: mae Tanuki’s Beaujolais Bar yn atgyfodi persona gwamalaidd Walter, gan ddathlu marwolaeth ac aileni drwy gyfres o bum archdeip: GWAMALWR, FFENICS, LASARUS, CICACA a TANUKI. Racŵn-gi Japaneaidd mytholegol sy’n gallu newid ei ffurf yw Tanuki, a welir yn aml ar ffurf geramig o gwmpas Kyoto yn dal arian ac yn yfed sake. Hoffter Abertawe o ddiwrnod Beaujolais yw’r cefndir ar gyfer golygfa chwareus a swrrealaidd sy’n cynnig llwncdestun i gysgadrwydd, adfywiad, aileni, newid a thrawsnewidiadau castiwr.


Dydd Sadwrn 22.11.25, Perfformiadau Byw

1.00pm – 4.00pm, Holly Slingsby

Mae Holly Slingby, a ysbrydolwyd gan ffrog gig eiconig Linder a diddordeb a rennir mewn cymeriadau archdeipaidd, yn ailddyfeisio’i pherfformiad Too Many Marys ar gyfer cyd-destun yr arddangosfa. Mae dwsinau o ddelweddau printiedig o’r Forwyn Fair o wahanol gyfnodau mewn hanes celf yn cael eu cysylltu wrth ei dillad â phinnau cau, mewn collage byw sy’n datblygu yn y fan a’r lle. Gellir ystyried y delweddau hyn fel safonau i’w bodloni, neu fel swynoglau amddiffynnol.

2.00pm – 3.00pm, Vivian Ross-Smith ac Esyllt Angharad Lewis

Mae Vivian ac Esyllt yn ymgynnull o amgylch troli pren y gellir ei symud sy’n gweithredu fel bwrdd cinio ar olwynion. Drwy symud, bwyta a sgwrsio, byddant yn archwilio eu cysylltiad unigol ag Abertawe fel eu cartref dewisol neu eu cartref geni. Drwy archwilio cyfeillgarwch fel deinameg teulu a’r arferion sy’n gysylltiedig â chartref, byddant yn dathlu ac yn galaru dros y ddinas fel lle ar gyfer darganfod a cholli, lle ar gyfer genedigaeth ac ailenedigaeth ar draws gwahanol hanesion a phrofiadau.


Fideos

Nos Iau, 20 Tachwedd 2025 5.30pm – 8.00pm

Dydd Gwener 21 Tachwedd – dydd Sul 23 Tachwedd, 10.00am – 4.30pm

Artistiaid Fideo: Adele Vye, Aled Simons, Alex Hetherington, Bhebhe a Davies, Jenny Baines, Jessa Mockridge, Rebecca Moss, Sophie Lindsey, Quilla Constance a Zia Torta.


Adele Vye
At the doorway (Time) ac At the doorway (Tide), 2020

Yn At the doorway (Tide) ac At the doorway (Time), mae Vye yn defnyddio’r peiriant golchi dillad i archwilio’r gwrthdaro rhwng cyfrifoldeb domestig ac amgylcheddol, a hynny mewn modd barddonol. Terfir ar weithred bob dydd golchi dillad, gan ei thrawsnewid yn ddefod. Mae tortshys yn rhoi arwydd i ofyn am help, mae dŵr yn codi ac rydym yn gweld yr artist yn cael ei llyncu, yn diflannu, yn cael ei chludo ac yn trawsnewid o’r tu mewn i’r peiriant.


Aled Simons
Legend Extension II, 2023

Beth pe bai ein hatgofion a’n gwybodaeth gyfunol yn cael eu recordio, eu hailddirwyn a’i hailrecordio ar hen dâp VHS? Mae Legend Extension II yn cynnig cyfle i ystyried dynwared anymwybodol heintus, gwyrdroi hanes personol, camddehongli a dadorchuddio ffeithiau anecdotaidd – wedi’u sgiwio wrth iddynt gael eu hadrodd droeon. Gydag animeiddio 3D cyntefig a golygfeydd archifol o fodryb yr artist, ar adegau rydym yn teimlo ein bod y tu mewn i gasét tâp fideo, fel pe baem yn archwilio corneli gêm gyfrifiadur 64 did llawn picseli.


Alex Hetherington
Sister Films, 2022

Man cychwyn Sister Films, recordiad 16mm o ymarfer ar gyfer perfformiad byw, yw cymeriad mytholegol Groegaidd cymhleth Tiresias, proffwyd dall i Apollo sy’n cael ei drawsnewid yn fenyw gan y dduwies Hera. Mae’r cysyniad o gyflyrau trothwyol cymhleth Tiresias – rhywedd cwiar a thraws, rhagargoel, dallineb a’r golwg – yn rhywbeth sydd wedi’i adlewyrchu drwy ffilm 16mm a’i phriodoleddau, ei materoldeb, ei thechnolegau a’i byrhoedledd lluosog.


Bhebhe&Davies
A Navigation, 2017

Mae A Navigation yn ymchwilio i deithiau personol a chanfyddiadau am oedran, hunaniaeth rywiol, gorbryder a chwant, gan archwilio rôl a lle agosrwydd o bob math: anghorfforol, cymdeithasol, deallusol ac emosiynol. Er mwyn datblygu’r gwaith hwn, cydweithredodd Bhebhe&Davies â pherfformwyr benywaidd dros 50 oed i archwilio sut mae cyrff menywod yn llywio hanesion, yn tarfu ar strwythurau pŵer ac yn meithrin undod. Mae’r ffilm yn myfyrio ar ragdybiaethau oedraniaethol drwy symud, gan ystyried sut mae unigolion yn meddiannu lle, yn datgan presenoldeb ac yn newid canfyddiadau. Gyda’r artist llafar Randolph Matthews a’r dylunydd sain Joseph Bond, mae’r trac sain yn defnyddio seiniau dynol sylfaenol fel mynegiannau o’r hunan emosiynol, gan atgyfnerthu pwyslais y gwaith ar brofiad corfforedig a’r berthynas newidiol rhwng hunaniaeth a phŵer.


Jenny Baines
Inflated (double) struggle, 2018

Mae Inflated (double) struggle yn dangos yr artist yn ymgodymu â rhywun o gryfder tebyg mewn ymdrech i dorri balŵn mwy nag arfer a ddelir rhwng eu cyrff. Wrth i’r balŵn ymestyn a thrawsffurfio dan y pwysau rhyngddynt, mae’r symudiadau ailadroddol yn dreisgar weithiau ac ar adegau eraill yn dyner.


Jessa Mockridge
Spivak_rub, 2024, 15 munud

Mae gweithiwr llyfrgell ar sifft nos yn rhwbio allan y marciau pensil mewn llyfr sydd wedi’i fyseddu a’i anodi’n helaeth gan Gayatri Chakravorty Spivak. Mae’n olrhain y cylchoedd, y croesau, yr anodiadau a’r cromfachau, gan ailberfformio’r ystumiau sy’n gwneud y marciau hyn. Mae llyfrgellwyr yn dileu gwaith pensil er mwyn digideiddio penodau pwysig i unrhyw un na all ddod i’r llyfrgell yn gorfforol neu sy’n dibynnu ar gyfarpar darllen sgrîn. Mae’r ffilm yn dogfennu ffantasi drwy goreograffi ei dwylo.


Quilla Constance
Happy Christmas Mom & Dad, 2006

“Yn ôl y disgwyl, mae’r arddangosiad amhriodol o rywioldeb ei merch yn codi cywilydd ar ei mam, ac mae’r ffordd y mae’r ferch yn ymwrthod â thabŵ llosgach – cymhleth Oedipws – yn swyno’r tad mewn modd sy’n peri problem. Mae archwiliad difalio Quilla Constance, neu Jennifer Allen, o’i phosibiliadau erotig ei hun, a allai ddigwydd yn ystafell wely’r ferch, bellach yn digwydd yn yr ystafell fyw fel anrheg ysgytiol i’w rhieni. Mae’r ferch ufudd, mewn arddangosiad sy’n dathlu ei rhywioldeb, yn ymwrthod â’r rôl a glustnodir i fenywod drwy waharddiad teuluol, mewn perfformiad sy’n destun rhyddhad” – Dr Mo Throp (Llenor/Artist)


Rebecca Moss
Home Improvement, 2021

Crëwyd Home Improvement yn ystod cyfnod clo Covid. Dyma beiriant gwenu cartref a luniwyd gan ddefnyddio gwrthrychau pob dydd byrfyfyr. Mae Rebecca Moss yn artist o Essex. Mae ei gwaith yn archwilio cysyniadau hurtrwydd ac ansicrwydd, a hynny ar ffurfiau amrywiol ym meysydd cerflunio, fideo, perfformio, gosod ac ymarfer cyfranogol. Drwy syniadau doniol, mae ei gwaith yn archwilio themâu dirfodol. Mae ymdeimlad o symud yn dychwelyd drwy gydol y gwaith, ac mae popeth yn y pair. Fe’i hysbrydolir yn benodol gan slapstic: oherwydd ei fynegiant emosiynol o ansicrwydd, ei gysylltiadau digrif isel-ael, ei ymdeimlad o ddwyochredd rhwng y corff a’i amgylchoedd, a’i botensial i herio pŵer.


Sophie Lindsey
Al Plein Fresco Air, 2019

Mae Al Plein Fresco Air yn berfformiad i’r camera sy’n rhan o’r prosiect ymchwil artistig Jam-scape. Drwy fabwysiadu safbwynt arlunydd tirluniau, mae Sophie yn gwneud ac yn bwyta brechdan jam mewn ymdrech i lenwi’r frechdan â chysylltiadau rhamantaidd am gefn gwlad. Mae hyn yn ymchwilio i’r ffordd y mae ein dychymyg torfol am fannau gwledig yn bodoli drwy fwyd, deunydd pecynnu bwyd ac archfarchnadoedd.


Zia Torta
Why Do You Keep Making the Same Mistakes?, 2025

Mae Why Do You Keep Making the Same Mistakes? yn gofyn cwestiwn agored am ein profiad dynol cyffredin, gan wahodd myfyrdod beirniadol ar ein defodau, ein meddyliau a’n cylchoedd, annog ymwybyddiaeth ofalgar, presenoldeb a thrugaredd tuag aton ni ein hunain ac eraill.



Categorïau

  • Dyfodol

Event Category: Dyfodol

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility