Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
5:30 pm - 8:00 pm

Profwch Oriel y ddinas ar ôl amser cau
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ddathlu agoriad,
Artes Mundi 11, Kameelah Janan Rasheed
Mae’n bleser gan brif arddangosfa eilflwydd a gwobr gelf gyfoes ryngwladol y Deyrnas Unedig gyhoeddi manylion ei hunfed arddangosfa ar ddeg, Artes Mundi 11, gyda’r partner cyflwyno Sefydliad Bagri (AM11). Dangosir gwaith chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol yn yr arddangosfa.
Linder: Danger Came Smiling
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, yn cyflwyno Linder: Danger Came Smiling, arddangosfa gan Hayward Gallery Touring sy’n cynnig trosolwg dadlennol o yrfa 50 mlynedd yr artist eiconig hwn.
Penwythnos o berfformiadau Penwythnos o berfformiadau
Ar y cyd ag arddangosfa Linder: Danger Came Smiling yn Oriel Gelf Glynn Vivian, mae’r artistiaid o Abertawe, Vivian Ross-Smith a Holly Slingsby, yn cyd-guradu penwythnos o berfformiadau byw a fideo yn yr oriel.
Gwobr Wakelin 2025: Lucia Jones
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi enillydd Gwobr Wakelin ar gyfer 2025. Rhoddir y wobr flynyddol i artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, y prynir ei waith ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac fe’i hariennir hefyd drwy roddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.
Our Visual World: DeafNot
Mae’r arddangosfa newydd hon yn dwyn ynghyd saith artist byddar o Our Visual World, y mae gwaith pob un ohonynt yn plethu themâu gweithrediaeth a naratif personol.
Bar a chaffi ar agor
Mynediad am ddim, croeso i bawb
Does dim angen tocynnau, galwch heibio ac ymunwch â ni unrhyw bryd
Categorïau

