Dydd Mawrth 17 Mehefin 2025 - Dydd Sul 22 Mehefin 2025
10:00 am - 4:30 pm
Ymwelwch â’r Oriel yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid am gyfres o weithgareddau rhagflas am ddim.
Cewch brofi’r gweithdai a gynhelir gan yr oriel bob wythnos, gan gynnwys tecstilau, paentio, darlunio a mosaigau, a chwrdd â’r grwpiau a’r tiwtoriaid sy’n dod iddynt yn rheolaidd. Dewch i’n Clwb Ffilm Sinema’r Byd sy’n cynnwys rhaglen o ffilmiau byrion a phrif ffilmiau a ddewisir yn arbennig gan Counterpoints Arts ac Other Cinemas.
Am ddim, croeso i bawb; does dim angen archebu lle.
Sesiwn ragflas galw heibio Threads
Dydd Mawrth 17 Mehefin, 12:00-14:00
Ymunwch â’n grŵp tecstilau cymunedol rheolaidd i archwilio’r deunyddiau a’r technegau y mae’r grŵp wedi’u defnyddio dros y tair blynedd diwethaf
Sesiwn galw heibio’r Clwb Printio
Dydd Mercher 18 Mehfin, 10:30-12:30
Rhowch gynnig ar dechnegau printio gwahanol yn y sesiwn ragflas ddifyr hon.
Sesiwn ragflas Gweithdai dydd Mercher i Oedolion
Dydd Mercher 18 Mehefin, 13:00-15:00
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darlunio neu baentio? Dewch i gwrdd â’r tiwtoriaid a’r grŵp a dysgu rhai technegau cyffrous. Darganfyddwch arddangosfeydd ac arddangosiadau ysbrydoledig yr oriel.
Sesiwn ragflas Gweithdy Mosaig Grŵp Croeso
Dydd Gwener 20 Mehefin, 13:00-15:00
Dysgwch sut i greu gwaith celf mosaigau hardd gan ddefnyddio darnau o deils domestig ac ychydig o ddychymyg!
Clwb Ffilm Wythnos y Ffoaduriaid: Sinema’r Byd
Eleni, mae Counterpoints Arts ac Other Cinemas – dau sefydliad sy’n gweithio ym meysydd cyfiawnder hiliol, mudo a’r hinsawdd – wedi cydweithio i greu rhaglen o ffilmiau byrion rhwng 16 a 22 Mehefin am wythnos sy’n cael ei phweru gan y gymuned!
___________________
Dydd Sadwrn 21 Mehefin, 13:00-15:00
Burnt Milk, Cyfarwyddwr: Joseph Douglas Elmhirst (Hyd y ffilm: 10 munud)
Rhaglun:https://www.youtube.com/watch?v=Vqh2e7NaL7g&pp=ygUSYnVybnQgbWlsayB0cmFpbGVy
Mae’r ffilm Burnt Milk wedi’i enwi ar ôl y pwdin Caribïaidd cyffredin a wneir trwy ferwi llaeth tewychedig tan ei fod wedi’i garameleiddio. Yn y ffilm hon, mae’r pwdin yn un o’r ychydig gysuron a roddir i Una, bydwraig unig sydd wedi’i hymddieithrio o Jamaica sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.
Themâu: Mudo, dadleoli, Jamaica, bwyd, llawenydd
Categori: Ffilm ffuglen fer
___________________
The Scent of Geranium, Cyfarwyddwr: Naghmeh Farzaneh (Hyd y ffilm: 5 munud)
Rhaglun: https://www.youtube.com/watch?v=k6zGKhaJfvE&pp=ygUdVGhlIFNjZW50IG9mIEdlcmFuaXVtIHRyYWlsZXI%3D
Trwy ddefnyddio ei phrofiad ei hun fel myfyriwr rhyngwladol o Iran yn yr UDA, mae Farzaneh yn rhoi llais i’r ofnau, yr amheuon a’r ystod gymhleth o emosiynau y mae mewnfudwyr yn eu hwynebu ac yn galw’n bwerus am ymagwedd fwy tosturiol.
Cynulleidfa: Addas i deuluoedd
Themâu: Iran, natur, teulu, tosturi, gwahaniaethu
Categori: Animeiddiad Byr
___________________
Fremont, Cyfarwyddwr: Babak Jalali (Hyd y ffilm: 1 awr 30 munud)
Trailer: https://www.youtube.com/watch?v=ObWrx064yzQ
Crynodeb: Drama-gomedi deimladwy a doniol gyda Anaita Wali Zada a Jeremy Allen White, sydd wedi ennill gwobr Emmy am ei rôl yn The Bear. Mae Donya, menyw ifanc o Affganistan sydd wedi symud i Fremont, California ar ôl gweithio fel cyfieithydd i’r fyddin Americanaidd, yn gweithio mewn ffatri bisgedi lwcus drwy’r dydd ac ar ddihun gyda’r hwyr yn brwydro ei dymuniad i ailadeiladu ei bywyd a’r euogrwydd gormesol sydd ganddi. Er mwyn cysylltu â’r byd, mae’n anfon neges anghonfensiynol trwy fisgeden lwcus.
Cynulleidfa: Ardystiad: 12A yn y DU
Themâu: Afghanistan, euogrwydd goroeswr, comedi
Categori: Prif ffilm ffuglen
___________________
Dydd Sul 22 Mehefin, 13:00 – 15:00
Los Comandos, Cyfarwyddwyr: Juliana Schatz Preston a Joshua Bennett (Hyd y ffilm: 30 munud)
Rhaglun: https://www.youtube.com/watch?v=sEnlinlmOvE&pp=ygUUTG9zIENvbWFuZG9zIHRyYWlsZXI%3D
O ganlyniad i drais eithafol rhwng gangiau a’r heddlu, mae gan El Salvador y gyfradd lofruddiaeth uchaf yn y byd. Mae’r uned feddygol frys, Los Comandos de Salvamento, yn un o’r ychydig sefydliadau sy’n fodlon sefyll yn erbyn y teyrnasiad brawychus hwn. Mae’n rhaid i Mimi, disgybl ysgol uwchradd 16 oed a pharafeddyg gwirfoddol, benderfynu a fydd hi’n aros yn y wlad neu’n peryglu ei bywyd wrth iddi helpu eraill.
Themâu: Trais gangiau, pobl ifanc, El Salvador, ymfudo
Rhybudd am y Cynnwys: Marwolaeth, troseddau treisgar, trais gangiau
Categori: Ffilm ddogfen fer
Journey Mercies, Cyfarwyddwr: Tomisin Adepeju (Hyd y ffilm: 15 munud)
Mae’r ffilm hon, a ysbrydolwyd gan brofiad Adepehu ei hun fel mewnfudwr o Nigeria yn Llundain, yn archwilio breuddwyd nas gwireddwyd ei rieni o ddychwelyd i Nigeria i fyw yn y tŷ a adeiladwyd ganddynt. Mae’r ffilm, a recordiwyd yn arddull esthetig VHS Nollywood clasurol, yn dangos profiad y mewnfudwr a’r hiraeth dwfn am berthyn mewn ffordd hyfryd.
Cynulleidfa: Addas i deuluoedd
Themâu: Nigeria, dadleoli, hunaniaeth ddiwylliannol
Categori: Ffilm ffuglen fer
Gwybodaeth am raglen ffilmiau Wythnos y Ffoaduriaid:
Mae’r rhaglen hon, a guradwyd gan Other Cinemas, yn cynnwys 5 ffilm fer a 2 brif ffilm sy’n archwilio thema #communityasasuperpower.
O ymatebwyr brys yn El Salvador sy’n cefnogi eu cymunedau mewn argyfwng i gysur arogl a blas cyfarwydd eich cartref, mae’r ffilmiau hyn yn ein gwahodd i ddathlu’r ffyrdd amrywiol rydym yn adeiladu ac yn cynnal ein cymunedau.
Gellir gwylio’r holl ffilmiau a ddewiswyd yn ofalus ar draws y byd am ddim – naill ai o’ch cartref eich hun neu gyda’ch cymdogion mewn dangosiad cymunedol. Does dim angen sicrhau’r hawliau neu drwydded, gan ein bod wedi trefnu’r rhain ar gyfer cyfnod Wythnos y Ffoaduriaid rhwng dydd Llun 16 Mehefin i ddydd Sul 22 Mehefin.
Mae Other Cinemas yn credu ym mhŵer ffilmiau i ddod â phobl ynghyd, felly maent wedi gwneud yr holl waith technegol diflas fel y gallwch chi ganolbwyntio ar ddewis y ffilm orau i ddod â’ch cymuned ynghyd. Peidiwch ag anghofio’r popgorn!
Hoffem ddiolch i’r tîm yn Curate-It am ddarparu platfform diogel ar-lein i ni rannu’r ffilmiau hyn a dathlu Wythnos y Ffoaduriaid gyda’n cymuned fyd-eang.
Categorïau