Dydd Sul 12 Hydref 2025
1:30 pm - 3:30 pm
Ymunwch â’r artist Ren Wolfe i greu gwisgoedd rhyfeddol a chael cyfle i wisgo i fyny ar set ddychmygol mewn ymateb i’r arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain!
Dydd Sadwrn 11 a dydd Sul 12 Hydref
Amseroedd gweithdai: 10:30 yb – 12:30 yp and 1:30 yp – 3:30 yp
Mae Ren Wolfe yn artist amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd.
Mae ei gwaith yn archwiliad swrrealaidd, llawen a herfeiddiol o sut gall pethau cyffredin fod yn hudol. Mae Ren yn creu byd esblygol o gymeriadau, symbolau a gofodau, gan dynnu ar draddodiadau carnifalau lle mae rheolau o ran normalrwydd yn cael eu gwrthdroi ac mae posibiliadau newydd yn dod i’r amlwg. Mae Ren yn disgrifio ei harfer fel gofalu abswrdaidd, ac mae hi’n cynnig lle i’w chynulleidfaoedd groesawu swyn a llawenydd fel ffordd radical o wrthwynebu.
AM DDIM. Yn addas ar gyfer pob oed. Rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Mae’n rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe a gynhelir ar draws y ddinas o 11 i 12 Hydref 2025. Caiff ei gefnogi gan y prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe a’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau