Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025
12:00 pm - 1:00 pm

Ymunwch â’r artist Linder a churadur Hayward Gallery Touring, Gilly Fox, wrth iddynt drafod y themâu a’r gwaith yn arddangosfa Linder: Danger Came Smiling, sydd i’w gweld yn Oriel Gelf Glynn Vivian ar hyn o bryd.
Wedi’i haddasu o’r cipolwg ôl-weithredol yn Oriel Hayward yn Llundain, mae’r fersiwn deithiol hon yn cyflwyno llwybr artistig cyflawn Linder, o’r gwaith cynnar a ddeilliodd o’i chyfraniad at fyd pync-roc ym Manceinion yn y 1970au i waith newydd nas dangoswyd o’r blaen. Mae ieithwedd weledol unigryw Linder yn cynnwys diffyg parch chwareus ac yn archwilio ein hagweddau newidiol at uchelgeisiau, rhyw, bwyd a ffasiwn.
Am ddim, Croeso i bawb. Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae arddangosfa Linder: Danger Came Smiling wedi’i churadu gan Hayward Gallery Touring
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau

