Dydd Sadwrn 17 Medi 2022
2:00 pm - 4:00 pm
Prynhawn o sgyrsiau a dangosiadau ffilm gyda gwneuthurwyr ffilmiau ac artistiaid On Your Face Collective.
Bydd artistiaid a gwneuthurwyr ffilmiau clyweledol o’r casgliad o artistiaid creadigol o Gymru yn arddangos eu celfweithiau, ac yna’n cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.
Am ddim, croesewir rhoddion o £3.
Rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Book now – Artist Talk and Film Screenings: On Your Face Collective
Ren Wolfe (hi/nhw)
Mae arfer Ren yn ddathliad ac yn archwiliad o chwarae dychmygus. Drwy ei gwaith mae’n cloddio atgofion plentyndod i archwilio’n perthynas â’r hunan a’r absẃrd. Mae’r gwaith yn gweithredu nid yn unig fel darnau ar wahân mewn sgwrs â thema ganolog, ond fel byd o gymeriadau a straeon cysylltiedig sy’n ehangu’n barhaus ac sydd, mewn modd herfeiddiol, yn rhoi’r gorau i elitaeth mewn modd o blaid hiwmor a chalon.
How to Make Anyone Fall in Love with You 1.40 munud
2019
O gyfres o fideos sy’n canolbwyntio ar y cymeriad ffuglennol Doxi Mylk – gwesteiwr MylkTV a llefarydd Marshall Brand Tuna Flakes. Mae “How to Make Anyone Fall in Love with You” yn barodi tyner o ddiwylliant dylanwadwr ac ar-lein.
Crush 1 funud
2020
Mae’r darn yn gerdd weledol sy’n archwilio’r homonym “Crush” gan ddefnyddio ffrwd o ysgrifennu barddoniaeth ymwybyddiaeth a delweddau wedi’u hysbrydoli gan fideos ffetish.
Full Ren 4 munud
2022
Mae “Full Ren” yn adlewyrchiad o’i harfer dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn benllanw iddo; mae’n archwilio themâu chwarae, perfformio, ac adeiladu bydoedd dychmygol fel gwrthwynebiad i’r byd tymhestlog o’n cwmpas.
Gemma Green-Hope (hi)
Animeiddiwr, cyfarwyddwr a darlunydd o Sir Benfro yw Gemma Green-Hope.
Mae ei gwaith wedi’i ysbrydoli gan fyd natur, y meddwl, mythau ac atgofion. Mae’n gwneud ffilmiau byrion, darluniau, paentiadau, fideos cerddoriaeth a hysbysebion i gleientiaid fel Llyfrau Penguin, Theatr Genedlaethol Cymru, The School of Life a’r Tate.
Modern Queer Heroes 5.7 munud
Pwy yw’r arwyr cwiar sy’n cerdded yn ein plith yn awr neu yn y blynyddoedd diweddar? Dathliad o ffigyrau LHDTC+ sydd wedi helpu i wthio diwylliant a chymdeithas ymlaen ychydig yn fwy i’r gweddill ohonom.
Mae’r strwythur a fu’n gydweithrediad yn ystod cyfnod cwarantin 2020, rhwng 14 o animeiddwyr o gwmpas y byd sydd wedi’u nodi’n LHDTQ+, yn seiliedig ar yr hen gêm ddarlunio Swrealaidd Exquisite Corpses.
Enwebwyd arwr gan bob animeiddiwr a gafodd arwr gwahanol wedyn i’w animeiddio gan basio’u ffrâm olaf i’r animeiddiwr nesaf i ffurfio’i ffrâm gyntaf ac yn y blaen.
Dilyniant cyfoes i’r Queer Heroes gwreiddiol vimeo.com/185201333 a gynhyrchwyd gan Kate Jessop.
Jogo Cruzado – Gemma X Surma (i’w gadarnhau)
Mae’r prosiect hwn, a gynhyrchwyd gan Culturgest, Canal180 a gnration yn paru gwneuthurwyr ffilmiau â cherddorion. Mae Jogo Cruzado yn gêm dau bwynt: rhoddir ffilm gan wneuthurwr ffilmiau i gerddor i wneud y trac sain ac, ar yr un pryd, rhoddir cyfansoddiad cerddorol i artist gweledol i greu ffilm fer. Cafodd yr artist o Gymru, Gemma Green-Hope, ei pharu â’r cerddor Surma o Bortiwgal. Y ffilm hon yw ymateb Gemma i gyfansoddiad Surma. Ymatebodd Gemma i’r trac drwy animeiddiad, gan lenwi llyfr braslunio â phaentiadau a darluniau sy’n symud gyda’r gerddoriaeth.
Efa Blosse-Mason (hi)
Mae Efa Blosse-Mason yn wneuthurwr ffilmiau o Gaerdydd sydd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo ffilm fer yn Gymraeg sef ‘Cwch Deilen/Leaf Boat’ sydd ar BBC iPlayer ar hyn o bryd.
Aeth Efa i’r brifysgol yn Ysgol Animeiddio Bryste ac enillodd ei ffilm raddedig ‘Earthly Delights’ Wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am yr animeiddiad gorau i fyfyrwyr yn 2019. Mae ei gwaith fel arfer yn canolbwyntio ar themâu menywod, straeon LHDTQ+ a byd natur.
Cwch Deilen/Leaf Boat 9 munud
Mae cariad yn gallu bod yn frawychus, ond gall hefyd fod yn antur fwyaf bywyd.
Ffilm fer animeiddiedig yn Gymraeg yw Cwch Deilen sy’n adrodd hanes Heledd a Celyn sy’n llywio dyfroedd tywyll ac annarganfyddedig cychwyn perthynas newydd. Drwy bŵer hudolus animeiddio 2D, mae’r ffilm hon yn archwilio bydoedd mewnol emosiynau’r cymeriadau sy’n cael eu delweddu drwy foroedd stormus.
Earthly Delights 3.44 munud
Mae Earthly Delights yn ymwneud â dau arddwr sydd â ffyrdd gwahanol o ddelio â malwod. Mae rhywun eisiau i natur lifo’n rhydd, tra bod y llall yn hoffi torri popeth yn llinellau syth wedi’u tocio’n daclus. Enillodd y ffilm dair munud hon wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am yr animeiddiad gorau i fyfyrwyr yn 2019.
Petros Kourtellaris (ef/fe)
Mae gwaith Petros yn cyffwrdd â sawl cyfrwng, boed hwnnw’n baentio, yn osodiad, yn berfformiad neu’n ysgrifennu. Mae’n ystyried ei hun yn rhywun sy’n dewis pob cyfrwng ac yn eu defnyddio yn ôl eu trefn fel yr offeryn a roddir iddo yn yr amgylchiadau cywir. Mae bod yn cwiar, ffantasi a hunaniaeth, dewisedig neu etifeddol, yn rhai o’r themâu y mae’n hoffi’u harchwilio. Oherwydd ei gefndir mewn dylunio setiau a gwisgoedd mae ei waith yn herio genres gan ei fod yn bodoli rhwng yr avant garde a’r masnachol. Mae trawsnewid yn greiddiol i’w waith ac fe ddaw i’r amlwg fel arfer yn y cymeriadau a grëir ganddo a’r amgylcheddau y mae’n byw ynddo.
IV 1.31 muned
IV in the Urban terrain, 2020 1.29 munud
Mae’r darn yn archwilio gwisg wedi’i chreu mewn ymateb i freuddwyd dwy ran a brofwyd yn 2017.
Mae IV yn archwilio hunaniaeth a fabwysiedir gan wisg a lle, sut mae cyflwr sydd wedi’i drawsnewid yn wisg yn mynd yn ôl i gael ei ddylanwadu gan ei amgylchoedd.
Mae IV yn brosiect a ddechreuodd ddatblygu yn 2017. Drwy ddiwygio’r gwaith hwn yn 2020 mae Petros Kourtellaris yn ceisio gosod y gwaith yng nghanol Nicosia mewn cyferbyniad â’r darn gwreiddiol. Drwy wneud hynny mae ffrithiant rhwng person sy’n mynd heibio a pherfformiwr yn cael ei greu. Nod y fideo hwn yw dogfennu’r ffrithiant hwn.
Ffilmio a golygu gan DRE PHOTOWORK NICOSIA CYPRUS
Swan lake 4.30
Fel dylunydd ac artist sy’n gweithio yng Nghaerdydd a fu’n gweithio gyda Tactile Bosch ar ddechrau pandemig COVID-19 ar osodiad yng nghanolfan siopa Capitol, sylweddolodd Petros yn gyflym sut roedd yr amgylchiadau digynsail hyn yn gofyn am ffyrdd newydd o gysylltu â chynulleidfaoedd. Gan ddefnyddio’u llwyfan cyfryngau cymdeithasol, cyflwynodd ddarn perfformiad wedi’i ffilmio, a ffilmiwyd ar strydoedd Caerdydd, wrth gyfuno delwedd swrrealaidd a cherddoriaeth glasurol i archwilio naratif angel syrthiedig, alarch mewn trafferthion, neu yn yr achos hwn hwyaden. Trosiad mwy ar gyfer y diwedd blêr i flwyddyn raddedig Petros a’i gyflwyniad i’r diwydiant creadigol a’r llawrydd. Mae’r wisg yn cynnwys gweddillion o waith perfformiad fideo arall sy’n dathlu ei fam-gu ond yn yr achos hwn daw cymeriad newydd i’r amlwg sy’n cyfuno elfennau wedi’u hysbrydoli gan nosweithiau mas cwiar yng Nghaerdydd a chyd-destun mwy stryd fel llwyfan.
Robert Oros (ef/fe)
Mae Robert Oros, a aned yn Rwmania, yn ffotograffydd, yn artist fideo ac yn guradur sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei arfer artistig yn archwilio gwahanol themâu cymdeithasol-wleidyddol gyda phwyslais ar leiafrifoedd, gyda phrosiectau cyfredol yn canolbwyntio ar argyfwng y ffoaduriaid a’r gymuned LHDTC+. Mae’r gwaith yn arsylwi ar gynrychioliadau unigol yn ystod cyfnodau o gynnwrf.
IDLE (2022)10 munud
Daw sylfaen y perfformiad hwn o ddealltwriaeth o sut beth yw profi’ch glasoed cwiar yn erbyn cefndir tref heteronormadol fach, lle mae syniadau patriarchaidd yn cael lle blaenllaw ac yn mygu. Roedd y diffyg dod i gysylltiad â chynrychiolaeth gerllaw o fod yn cwiar wedi’n harwain at y rhyngrwyd ac at dechnoleg, mewn ymgais i ddod o hyd i le i berthyn. Mae IDLE, gyda’i elfennau perfformiadol, yn defnyddio’r sgrîn fel pwynt ffocws; lle ar gyfer cysylltu a gwahanu; o ddod ynghyd ond aros ar wahân. Tynnir unrhyw fath o fynegiant oddi ar wynebau’r perfformwyr sydd wedi’u tywys i fynegi’u hunain yn unig drwy eu teclynnau cludadwy sydd ar gael a thrwy berfformio ailadroddiadau o berfformiadau a recordiwyd ymlaen llaw. Mae’r sain o’r offerynnau a’r ffonau’n uno â’i gilydd, wrth i fersiynau o’r perfformiadau gael eu dyblygu, gan gynhyrchu tensiynau a chreu profiad aml-ddimensiwn. Mae IDLE yn cyflwyno arsylwad arbrofol ar gyfathrebu rhyngbersonol cyfoes, technoleg a hunaniaeth, wrth archwilio effaith baradocsaidd cysylltiad perthynol a’r gwahaniad corfforol y mae’n ei greu.
Categorïau