Dydd Sadwrn 21 Chwefror 2026
1:30 pm - 2:30 pm
Yn y sgwrs hon, bydd Jessie yn trafod ei gwaith diweddaraf, Out of Sight & Out of Mind, gan fyfyrio ar faterion systemig mamolaeth ac amlygrwydd a’i phrofiadau personol ei hun o ddod yn fam yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mewn ymateb i ddefnydd Linder o collage, llafn a delweddau darniog, bydd Jessie yn archwilio rôl y fam. Mae artistiaid a mamau fel ei gilydd yn tynnu o’r hyn sy’n digwydd yn ein byd i wneud synnwyr o’n byd ac i siarad am ein byd.
Mae Out of Sight & Out of Mind yn haenu ac yn dadansoddi’r archifau, straeon anghofiedig mamau ac yn dadansoddi ein hwiangerddi swynol er mwyn nodi ble y gallai ein synnwyr o ofal a chariad fynd â ni yn y dyfodol.
Am ddim
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Book now – Friends of the Glynn Vivian Talk with Jessie Edwards-Thomas
Jessie Edwards-Thomas
Mae Jessie Edwards-Thomas yn artist gweledol ac yn Uwch-ddarlithydd mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), Bryste.
Mae ei harfer yn archwilio perthynas yr unigolyn â chymdeithas, gyda themâu ailadroddus o berthyn, gofalu, dieithrio a phŵer.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Jessie wedi canolbwyntio ar gwestiynu rôl mamolaeth yn y gyfundrefn gyfalafol. Yn 2024, cafodd ei chomisiynu gan Ffotogallery, Caerdydd, i ddatblygu’r ymchwil hon, gan arwain at arddangosfa unigol yn Chapel Cemetery. Ar hyn o bryd, mae hi’n astudio dan PhD wedi’i ariannu’n llawn yn UWE i ymchwilio ymhellach i’r maes hwn.
Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â’r gymuned. Mae hi wedi arwain prosiectau sy’n mynd i’r afael â thai, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol ym Mhrydain gyfoes, gan gynnwys comisiwn yn 2021 gyda Gŵyl Ffotograffiaeth Bryste, canolfan Arnolfini a Golden Key, a gafodd ei arddangos yn Arnolfini. Mae hi hefyd wedi partneru â sefydliadau fel Prifysgol Falmouth, Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr ac InBetweenTime ar raglenni allgymorth ffotograffig a chelf sy’n ymgysylltu â’r gymdeithas.
Mae ei gwaith wedi’i arddangos ledled y DU, gan gynnwys yng nghanolfan Arnolfini, Ffotogallery, Oriel Mostyn, Peckham24, Gŵyl Ffotograffiaeth Bryste, Gŵyl FORMAT a’r Academi Frenhinol.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau


