Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025
12:30 pm - 1:30 pm

Ymunwch â ni ar gyfer y sgwrs am ddim hon gyda Chyfarwyddwr Artes Mundi, Nigel Prince.
O’r tu mewn i arddangosfa Artes Mundi 11 yn yr Atriwm yn Oriel Gelf Glynn Vivian, bydd Prince yn archwilio gwaith yr artist sydd ar restr fer Artes Mundi 11 (AM11), Kameelah Janan Rasheed.
Ar gyfer AM11, mae Rasheed wedi datblygu dau osodwaith, un cyflwyniad unigol yn Oriel Gelf Glynn Vivian a’r llall wedi’i osod yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r ddau osodwaith sy’n cyfuno gwaith newydd â fersiynau newydd o gyrff gwaith sy’n parhau, yn chwarae gyda’r gofod ffisegol, gan blethu darnau ynghyd i archwilio hanesion gwaith byrfyfyr Du, chwarae a cherdd dafod arbrofol. Maent yn archwilio strategaethau ar gyfer sut y gall testun fod yn fyw ac yn fywiog ar draws amrywiol gyd-destunau pensaernïol.
Mae Artes Mundi 11 gyda’r partner cyflwyno Bagri Foundation yn cynnwys chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol ac fe’i cynhelir ledled Cymru.
Am ddim. Rhaid cadw lle. Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Dechreuodd Nigel Prince ei swydd fel Cyfarwyddwr Artes Mundi yng Nghaerdydd ar ddiwedd 2019. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Gweithredol yn Contemporary Art Gallery, Vancouver, Canada, swydd y bu’n ei dal ers 2011.
Bu’n Guradur yn Ikon Gallery, Birmingham (2004-2010), a bu’n gweithio ar sefydlu International Project Space (IPS) hefyd yn Birmingham. Dechreuodd Prince ei yrfa yn Tate Liverpool ac ochr yn ochr â gwaith curadurol mae wedi dal sawl swydd academaidd ac ymchwil gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyrsiau ym Mhrifysgol Dinas Birmingham (1997-2002). Mae ei waith gydag artistiaid cyfoes yn helaeth, gan gynnwys Olafur Eliasson, Ayşe Erkmen, Ryan Gander, Donald Judd, Liz Magor, Steven Shearer, Shahzia Sikander ac Andrea Zittel, ymhlith llawer o rai eraill. Cyhoeddwyd ei arddangosfa gyda’r artist o Giwba Carmen Herrera yn 2009 fel “darganfyddiad y degawd” gan The Guardian, The Observer a’r New York Times. Mae Prince wedi ysgrifennu am gelf gyfoes ar gyfer ystod eang o gyhoeddiadau, yn fwyaf diweddar drwy gyfrannu traethodau i ysgrifau ar Lucy a Jorge Orta, Channa Horwitz a Julia Dault.
Categorïau

