Dydd Mercher 13 Tachwedd 2019
1:00 pm - 2:00 pm
Mae’r digwyddiad hwn am ddim.
Gyda’r Dr. Nick Owen
Credir bod saethwyr, milwyr proffesiynol tra hyfforddedig yn ystod oes y Tuduriaid, yn rhan sylweddol o griw’r Mary Rose pan suddodd ym 1545. Cysylltodd Ymddiriedolaeth y Mary Rose â Dr Nick Owen yn 2012 i ymchwilio i ddulliau o adnabod pa rai o’r 98 o ysgerbydau, a oedd yn weddol gyflawn, a adferwyd o’r Mary Rose, oedd yn saethwyr.
Roedd hwn yn brosiect a oedd yn gofyn am arbenigedd sawl person. Gan ddechrau gyda’r dybiaeth y gellid ystyried saethwr oes y Tuduriaid fel athletwr o’r radd flaenaf, dechreuodd y gwaith ditectif.
Bydd sgwrs Dr Owen yn cynnwys dadansoddiad o saethwyr bwa hir modern gan ddefnyddio technoleg Cipio Symudiad o’r radd flaenaf er mwyn darganfod pa un o esgyrn y saethwyr oedd yn debygol o ddatgelu eu galwedigaeth. Yna, gan ddefnyddio technegau arloesol, dangosir sut y mesurwyd yr esgyrn gan ddefnyddio laser. Drwy wneud hyn, mesurwyd yr esgyrn yn fanwl ac yn dra-chywir, er mwyn osgoi difrodi’r trysorau cenedlaethol unigryw ac amnewidiadwy hyn.
I orffen, bydd Dr Owen yn trafod canlyniadau ei ymchwiliad i’r saethwyr a rhai o’r darganfyddiadau diweddaraf a chyffrous am ethnigrwydd criw Tuduraidd y Mary Rose.
Rhaid cadw lle www.ticketsource.co.uk/glynnvivian
Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau