Mae’n bleser gan brif arddangosfa eilflwydd a gwobr gelf gyfoes ryngwladol y Deyrnas Unedig gyhoeddi manylion ei hunfed arddangosfa ar ddeg, Artes Mundi 11, gyda’r partner cyflwyno Sefydliad Bagri (AM11). Dangosir gwaith chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol yn yr arddangosfa, a gynhelir rhwng 24 Hydref 2025 a 1 Mawrth 2026.
- Yr artistiaid sydd ar y rhestr fer ar gyfer Artes Mundi 11. Rhes uchaf, o’r chwith: Jumana Emil Abboud (llun: Ai Iwane); Anawana Haloba (llun: Sello Majara); Kameelah Janan Rashid (llun: Kameelah Janan Rasheed). Rhes waelod, o’r chwith: Sancintya Mohini Simpson (llun: Sid Coombes (Sica Media)); Antonio Paucar (llun: Jorge Jaime Valdez); Sawangwongse Yawnghwe (llun: Alex Blanco).
Cyhoeddir enillydd Gwobr fawr £40,000 Artes Mundi – gwobr fwyaf y Deyrnas Unedig am gelf gyfoes – yn ystod yr arddangosfa yn Ionawr 2026. Yn dilyn llwyddiant AM10, am yr ail waith caiff AM11 ei gyflwyno’n genedlaethol mewn pum lleoliad ledled Cymru, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am y tro cyntaf.
Bydd gwaith gan bob artist i’w weld mewn cyflwyniad grŵp yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bydd hynny’n ganolbwynt canolog fydd yn cynnwys cynyrchiadau newydd uchelgeisiol a benthyciadau pwysig fydd yn cynrychioli craidd sylfaenol ymarfer pob artist. Bydd y sioe grŵp yn caniatáu datgelu deialog thematig rhwng pob artist, yn seiliedig ar hanesion a straeon personol sy’n archwilio cwestiynau am golled, cof, ac ymfudo, a’r trawma a’r gost amgylcheddol sy’n deillio. Ategir hyn gan arddangosfeydd unigol cynhwysfawr ledled y wlad.
Dyma leoliadau cyflwyno gweithiau unigol AM11: Anawana Haloba a Sawangwongse Yawnghwe yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Sancintya Mohini Simpson yn Chapter, Caerdydd; Kameelah Janan Rasheed ynOriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; a Jumana Emil Abboud ac Antonio Paucar ym Mostyn, Llandudno.
Fel llwyfan hanfodol i gyfnewid diwylliannol rhwng cymunedau artistig y Deyrnas Unedig a’r byd, a’i ffocws ar archwilio’r ‘cyflwr dynol’, mae Artes Mundi’n casglu arddangosfa sylweddol at ei gilydd bob dwy flynedd o gelf gyfoes gan artistiaid rhyngwladol dylanwadol. Mae AM11 yn parhau â’i draddodiad o gyflwyno gwaith arbennig yng Nghymru sy’n ymdrin â chwestiynau mawr ein hoes.
Kameelah Janan Rasheed yn Glynn Vivian, Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
g.1985 Dwyrain Palo Alto, yn byw ac yn gweithio yn Brooklyn, Efrog Newydd, UDA
Ar gyfer AM11 bydd Kameelah Janan Rasheed yn archwilio barddoniaeth, gwleidyddiaeth a phleserau cyfathrebu trwy ei hymarfer amlddisgyblaethol sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng iaith ysgrifenedig, colled ac ystyr diflannol. Bydd ei gwaith yn cynnwys gosodwaith graffig trochol o brintiau, geiriau, lluniadau, baneri, ffotograffau a fideo hen a newydd a fydd yn ymdreiddio i’r atriwm yn Glynn Vivian gan feddiannu gofod y llawr isaf tra’n estyn i fyny i’r llawr uwch ben. Dywed Rasheed ei bod yn dysgu o hyd, a bydd yn cyfrannu hefyd at y rhaglen gyhoeddus o weithdai a theithiau i ysgolion, cymunedau a theuluoedd, agwedd bwysig ar ei hymarfer cyffredinol. Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, dangosir gosodwaith ategol yn ymgorffori ystod debyg o gyfryngau, a chysylltir y ddau ofod trwy ymateb Rasheed i nodweddion arbennig pensaernïaeth yr adeilad mewn perthynas â’i hymyriadau.