Grŵp Zoom ar-lein
Grŵp a arweinir gan gyfranogwyr ac a gefnogir gan Oriel Gelf Glynn Vivian yw Sgyrsiau Cyfoes. Mae’r grŵp yn cwrdd ar-lein ddwywaith y mis ar hyn o bryd ac yn trafod syniadau a themâu o arddangosfeydd cyfredol a diweddar. Maent hefyd yn cynnal rhaglen o ffilmiau a rhaglenni dogfen artistiaid. Mae’r grŵp yn cwrdd yn yr oriel fel arfer, ond maent yn teithio oddi ar y safle i leoliadau diwylliannol a stiwdios artistiaid eraill yn rheolaidd. Os oes gennych ddiddordeb mewn trafodaethau celf gyfoes a chwrdd â phobl newydd mewn sesiwn hamddenol a chyfeillgar ar-lein, e-bostiwch Richard.Monahan@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Grŵp Zoom ar-lein
Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3.
Digwyddiadau sydd ar ddod
Taith o'r Oriel gyda Dr Zehra Jumabhoy – Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf 2025, 11:30 am - 12:30 pm
Taith o'r Oriel gyda Dr Zehra Jumabhoy – Dydd Sadwrn 9 Awst 2025, 11:30 am - 12:30 pm
Taith o'r Oriel gyda Dr Zehra Jumabhoy – Dydd Sadwrn 13 Medi 2025, 11:30 am - 12:30 pm
Sgwrs Cyfeillion y Glynn Vivian gyda’r Athro Helen Fulton – Dydd Gwener 26 Medi 2025, 12:30 pm - 1:30 pm
Taith o'r Oriel gyda Dr Zehra Jumabhoy – Dydd Sadwrn 11 Hydref 2025, 11:30 am - 12:30 pm