• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

"Glynn Vivian" logo typed in black text

Swansea’s City Gallery - A vibrant and inspiring art space for everyone

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube

Header Left

Header Right

  • Facebook
  • Flickr
  • Instagram
  • Twitter
  • Vimeo
  • YouTube
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
  • Hafan
  • Be sy’ mlaen
    • Arddangosfeydd
    • Casgliadau
    • Dysgu
    • Digwyddiadau
  • Arddangosfeydd
    • Gorffennol
    • Presonnol
    • Dyfodol
  • Casgliadau
    • Sgyrsiau â’r Casgliad
    • Richard Glynn Vivian
    • Cadwraeth
    • Uchafbwyntiau’r Casgliad
    • Gwasanaeth Ffotograffau
    • Deg Gwrthrych o’r Casgliad
    • Blitz Tair Noson Abertawe
  • Dysgu
    • Teuluoedd
    • Ysgolion a Cholegau
    • Pobl Ifanc
    • Oedolion
    • Cymuned
  • Llogi
  • Ymweld
    • Ewch ar daith rithwir
    • Cyrraedd yma
    • Caffi
    • Siop
    • Mynediad
    • Croeso Bae Abertawe
  • Amdanom ni
    • Hanes yr Oriel
    • Newyddion Glynn Vivian
    • Cysylltwch a ni
    • Gwasanaeth e-bost
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Cefnogwch ni
    • Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
    • Ffyrdd o roi arian
    • Ein cefnogwyr a’n rhwydweithiau
  • Cymraeg
    • English
Rydych chi yma: Hafan / Prosiectau a Phartneriaethau

Prosiectau a Phartneriaethau

Yn Oriel Glynn Vivian, credwn fod ein partneriaethau’n ganolog i ddyfodol yr oriel a byddwn yn parhau i ddathlu’r holl brosiectau a phartneriaid yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Artist preswyl yr oriel genedlaethol ar gyfer 2025

Heddiw, cyhoeddodd yr Oriel Genedlaethol mai Ming Wong, yr artist o Singapôr, yw’r Artist Preswyl newydd ar gyfer 2025. Gwahoddwyd Wong i ymateb i gasgliadau’r Oriel Genedlaethol ac amgueddfa bartner eleni, Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.

Group of people around a rug tufted vehicle with textiles hanging in the background

ArtAngel

Mae’n destun cyffro i Oriel Gelf Glynn Vivian fod yn rhan o’r prosiect cenedlaethol Come As You Really Are, gan Hetain Patel, sydd wedi’i gomisiynu a’i gyflwyno gan Artangel. Mae’r arddangosfa gyffrous hon yn amlygu gwrthrychau unigryw a wnaed â llaw, gyda chyfraniadau gan hobïwyr o bob cwr o’r DU.

Mae’r prosiect yn cynnwys 13 o gyflwyniadau rhanbarthol ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban o haf 2024 – 2026, gan gydweithredu i greu dathliad cenedlaethol o greadigrwydd a hunanfynegiant.

Oriel wedi’i dewis ar gyfer Cronfa Casgliadau Esmée Fairbairn 

Nod y gronfa, a ddyfernir gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd, yw cefnogi prosiectau sy’n dod â chasgliadau yn nes at bobl. Bydd y grant yn galluogi’r oriel i ddatblygu prosiect newydd dwy flynedd o hyd, i ailwerthuso rhan o’r casgliad parhaol yn helaeth. 

The Gallery's Atrium space, filled with floating parachutes, each one with it's own projected image of elements of the natural world

Heather Phillipson, Out of This World, IWM & 1418NOW 

Mae Out of this World gan Heather Phillipson yn rhan o rhaglen bartneriaeth genedlaethol sy’n cynnwys mwy nag 20 comisiwn gan artistiaid ar thema effaith gwrthdaro arfog. Mae wedi’i chomisiynu drwy Gronfa Waddol IWM 14-18 NOW mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian.

CELF: national contemporary art gallery for Wales

Mae’r prosiect blaenllaw cyffrous hwn ar gyfer Cymru wedi cael ei ddylunio i ehangu mynediad at gasgliadau celf sy’n eiddo cyhoeddus a chefnogi artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru trwy ddarparu cyfleoedd comisiynu ac arddangos cysylltiedig. 

The Street Matters 

Mae The Street Matters, prosiect mewn partneriaeth â Caredig, y Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig (EYST), y YMCA ac Oriel Gelf Glynn Vivian, yn ceisio denu buddsoddiad diwylliannol a chymunedol sylweddol i St Helen’s Road er mwyn datblygu gweledigaeth gymunedol. 

Our Visual World

Mae Our Visual World yn bodoli i helpu artistiaid Byddar yn ne Cymru drwy greu grŵp rhwydweithio lle gall artistiaid Byddar gysylltu a dysgu gan ei gilydd. 

National Portrait Gallery Skills Sharing Programme

Mae deuddeg amgueddfa ac oriel o bob rhan o’r DU wedi dod ynghyd i gymryd rhan mewn rhaglen rhannu sgiliau a gwybodaeth.

Artes Mundi

Nod Artes Mundi yw dod â chelf ryngwladol eithriadol i Gymru a chreu cyfleodd unigryw i unigolion a chymunedau lleol ymgysylltu â materion brys y dyddiau hyn mewn ffyrdd creadigol sy’n berthnasol i bob un ohonom. 

Wide shot of the Atrium in teh Gallery, tkaen from the Mezzanine area. Swansea Open exhibition is on the walls of the Atrium and Mezzanine.

Plus Tate 

Mae’r Glynn Vivian yn aelod o rwydwaith Plus Tate, un o 35 o orielau yn y DU y caiff ei gwaith ei gydnabod am ei arloesedd a’i berthnasedd. 

Paul Mellon Centre 

Mae Canolfan Paul Mellon yn elusen addysgol sy’n hyrwyddo ffyrdd newydd o ddeall hanes a diwylliant celf Prydain.  

Ar hyn o bryd, Dr Zehra Jumabhoy yw cymrawd ymchwil curadurol Oriel Gelf Glynn Vivian, swydd a ariennir gan Paul Mellon Centre for British Art. Mae’n gweithio ar brosiect mawr Imperial Subjects sy’n trafod sgyrsiau ôl-drefedigaethol rhwng Cymru a De Asia.

A bronze sculpture in the foreground of a human figure. wall based abstract painting in the background.

Art UK

Caiff cannoedd o baentiadau olew o gasgliad yr oriel, gan gynnwys gwaith gan Monet, Pissarro ac Evan Walters eu dangos ar wefan Art UK.  

Bloomberg Connects

Mae’r Glynn Vivian wedi lansio canllaw ddigidol newydd ar Bloomberg Connects, yr ap celfyddydau a diwylliannol am ddim a grëwyd gan Bloomberg Philanthropies. 

Visual Arts Group Wales

Mae’r Visual Arts Group Wales (VAGW) yn rwydwaith annibynnol wirfoddol sy’n bodoli er mwyn cryfhau’r sector gelf weledol yng Nghymru trwy bartneriaeth, eiriol a hyfforddiant. 

Chyfeillion y Glynn Vivian

Mae’r Cyfeillion yn chwarae rhan weithredol yn yr oriel, gan ddarparu gwirfoddolwyr, cyfrannu at brynu gweithiau sy’n ehangu casgliad yr oriel a chefnogi rhaglenni’r oriel.  


Rhaglen Ddysgu

The World Reimagined globe trail. Image of a large painted globe in the gallery garden

HarMINDize & African Community Centre 

Mae’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) yn ymrwymedig i chwalu rhwystrau, hyrwyddo cyfranogiad a chydlyniant cymunedol yn ogystal â meithrin dealltwriaeth well o ddiwylliant Affricanaidd yn ein cymuned leol. Mae’r Oriel yn gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan ar ei phrosiect HarMINDize, gan gyflwyno gweithdai sgiliau celf a chreadigol i bobl ifanc o gefndiroedd gwahanol.

ILA Wales

Grŵp o bobl Iberaidd a Lladin-Americanaidd, Cymreig a Seisnig sydd wedi dod ynghyd i weithio dros ein cymuned i ddiogelu, cryfhau a hyrwyddo treftadaeth ein diwylliannau a’n hieithoedd, yn ogystal â’u rhannu â chymunedau lleol a chenedlaethol eraill.

Sightlife

Elusen yw Sightlife sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau lleol fel y gall pobl ddall neu â golwg rhannol yn ne Cymru fwynhau bywydau annibynnol, gweithredol, cymdeithasol a boddhaus.Elusen yw Sightlife sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau lleol fel y gall pobl ddall neu â golwg rhannol yn ne Cymru fwynhau bywydau annibynnol, gweithredol, cymdeithasol a boddhaus.

Mae Sightlife yn cwrdd bob wythnos yn yr Oriel am sesiynau cymdeithasol a phob mis am weithdai dan arweiniad artistiaid, yn ogystal â mwynhau teithiau â disgrifiadau clywedol o’r arddangosfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd.

Maethu Cymru

Mae Maethu Cymru yn gydweithrediad – rhwydwaith cenedlaethol o holl dimau maethu Awdurdodau Lleol Cymru. 

Y Ganolfan Gofalwyr

Sefydliad gwirfoddol arbenigol yw Canolfan Gofalwyr Abertawe sy’n cefnogi gofalwyr a chyn-ofalwyr ar draws Abertawe.

Siapiau Cwiar, Bywluniadu

Nod Siapiau Cwiar yw cyfoethogi’r celfyddydau drwy ddarparu lle diogel i gyrff ar y cyrion o bob math gael eu dathlu drwy fodelu byw.

Cynhelir sesiynau bywluniadu unwaith y mis yn Oriel Gelf Glynn Vivian ac maent ar agor i bawb.

On Your Face: Creu Cymru Cwiar, Cysylltu Pobl

Menter gymdeithasol yw OYF sy’n annog amlygrwydd i bobl greadigol LHDTC+ Cymru trwy ddigwyddiadau diwylliannol cwiar yn yr ardaloedd gwledig

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn parhau i gefnogi On Your Face drwy fentora, partneriaethau a rhaglen sgyrsiau ar-lein bob mis.

Queer Tawe

Mae Queertawe yn brosiect pontio’r cenedlaethau ar gyfer pobl LGBTQIA+ yn Abertawe, gyda chreadigrwydd wrth wraidd hynny. Byddwn yn creu mannau diogel, cwiar a sobr drwy gydol 2024 i bobl fynychu amrywiaeth o weithdai creadigol AM DDIM.

Participants from the welcome group, working on a collaborative mosaic

Oriel Gelf Noddfa

Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yw’r oriel gyntaf yn y DU i dderbyn gwobr Oriel Gelf Noddfa. 

Footer

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe, SA1 5DZ

+44 (0)1792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Gwasanaeth ebost

Oriau agored

Dydd Mawrth – ddydd Sul, 10.00am – 4.30pm Mynediad olaf 4.00pm

Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Am ddim

Arts Council of Wales logo
Sponsored by Welsh Government logo
Tate Plus logo
Heritage lottery funded logo
Friends of the Glynn Vivian logo
Sponsored by Accredited Museum logo

Return to top of page

Copyright © · Glynn Vivian | Privacy and cookies| Website accessibility