Dydd Llun 14 Ionawr 2019 - Dydd Iau 14 Mawrth 2019
12:00 am
Un rhan o’r bartneriaeth greadigol HigherStreet International yw Nazma Ali sydd hefyd yn gweithio’n annibynnol fel artist amlddisgyblaethol. Dychwelodd Nazma i astudio celf pan oedd yn 30 oed, ac enillodd Wobr Myfyriwr y Flwyddyn Mynediad at Addysg Uwch cyn ennill Gradd Meistr mewn Deialogau Cyfoes: Celfyddyd Gain.
Yn ogystal â defnyddio paent, gludwaith, cerflunwaith ac o bryd i’w gilydd, berfformio fel rhan o’i chyfrwng, mae Nazma hefyd wedi defnyddio’r gair ysgrifenedig i ddod o hyd i’w llais. Ar hyn o bryd, mae Nazma’n gweithio ym maes lles ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn sut gall natur wella iechyd emosiynol.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau