Dydd Iau 21 Mai 2020
2:00 pm - 4:30 pm
Cyfres Seminar Imperial Subjects: Seminar Pedwar
Ar-lein ar Zoom
Rhan o gyfres o seminarau Imperial Subjects: (Post)colonial converstations between South Asia and Wales, a ariennir gan y sawl sydd wedi derbyn bwrsariaeth British Art Network, Oriel Gelf Glynn Vivian a hanesydd celf De Asia Dr Zehra Jumabhoy. Mae’r gyfres seminar yma wedi’i haddasu er mwyn ei throsglwyddo ar-lein.
Mae cysylltiad hir wedi bod rhwng De Asia a Chymru sy’n estyn yn ôl i flynyddoedd cynharaf treiddiad gwleidyddol cymdeithasol Prydain i’r is gyfandir. Ac o ystyried statws Cymru ei hun o fewn hanes ehangach Prydain, mae’r cyfarfodydd yn aml wedi bod yn fwy cydweithredol (ac mae’r ddau wedi rhannu mwy mewn cyffredin) nag y byddai hanes gwladychiaeth yn ei awgrymu. Mae’r gyfres o bedwar seminar paredig yn amlinellu rhai o’r rhyngweithiadau rhwng De Asia a Chymru, wrth hefyd ffugio rhai newydd.
Mae’r seminarau wedi’i pharu fel Wythnos Un a Dau ac yn cael ei throsglwyddo ar ddydd Mawrth a dydd Iau pob wythnos. Gall cynrychiolwyr cofrestru am un neu’r ddwy wythnos.
Trefnwyd y ddau seminar ar Wythnos Dau gyda chymorth o Hanesydd Llenyddiaeth Cymraeg Yr Athro Daniel G. Williams ac Arbenigwr India Anne Buddle o Orielau Cenedlaethol Yr Alban yng Nghaeredin.
Seminar Pedwar: Cultural Interactions
21 Mai 2020, 2-4:30pm
Mae cysylltiad hir – os nad un serchog –wedi bod rhwng De Asia a Chymru sy’n estyn yn ôl i flynyddoedd cynharaf treiddiad gwleidyddol cymdeithasol Prydain i’r isgyfandir. Bu sawl ymdrech academaidd i olrhain nodweddion tebyg rhwng hen fythau Vedig a chwedlau Celtaidd; rhwng duwiau a thylwyth teg. Ond eto, er ei chyfoeth, mae’r bartneriaeth hon – fel llawer o bethau eraill sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth Prydain o Gymru – wedi cael ei hesgeuluso i raddau helaeth. Er yr archwiliwyd y cysylltiadau Gwyddelig ac Albanaidd â De Asia, prin fu’r astudiaethau manwl o’r sgyrsiau diwylliannol, crefyddol, gwleidyddol a masnachol amrywiol a fu rhwng De Asia a Chymru.
Dyma’r seminar olaf yn y gyfres Imperial Subjects, ac mae’n nodi’r dechrau i ddatblygiad i arddangosfa fawr yn cynnwys artistiaid cyfoes Cymraeg a De Asia, wedi curadu gan Katy Freer o Glynn Vivian a Zehra Jumabhoy. Mae’r seminar yn cynnig lansiad i ddadleuon cyd-diwylliannol ac amlddisgyblaethol.
Sgwrs panel gyda’r Athro Daniel G. Williams
Mae lleoedd yn brin, felly rhaid cadw lle.
Cofrestrwch i fynychu’r ddau seminar ar Wythnos Un
Mae croeso i bawb, yn enwedig aelodau o grwpiau pynciau arbenigol British Art Network.
Ariennir y gyfres hon o seminarau gan British Art Network, ac mae’n ffurfio rhan o’i raglen. Fe’i harweinir ar y cyd gan Tate a’r Paul Mellon Centre for Studies in British Art, a hefyd fei’i ariennir gan gronfa gyhoeddus y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.
N.S. Harsha, FACING, 2018. Arddangosfa bartneriaeth gan Artes Mundi ac Oriel Gelf Glynn Vivian. Delwedd gosodiad: Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe. Ffotograffiaeth Polly Thomas
Categorïau